Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Mawrth 2022
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Joel James AS.
Roedd James Evans AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.
2 Sesiwn dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Louise Roberts o’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), a Jennifer Molloy, rhiant sydd wedi bod mewn gofal.
3 Sesiwn dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Carter, Barnardo’s Cymru, De-ddwyrain Cymru; Liz Baker, Barnardo’s Cymru, Caerdydd a’r Fro; Sharon Lovell, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol; a Daljit Kaur Morris, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.
4 Deisebau newydd
4.1 P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd, a chytunodd i ysgrifennu at y cyrff a ganlyn:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd a gwasanaethau niwroadsefydlu yng ngogledd Cymru.
4.2 P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd, sy’n penderfynu ar ffurf briodol deisebau cyhoeddus a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 23, er mwyn gofyn am ei hymateb i'r ddeiseb.
4.3 P-06-1255 Sicrhau bod tadau/partneriaid geni yn cael eu cynnwys ym mhob asesiad a gofal drwy gydol y cyfnod amenedigol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch y mater o gynnwys tadau drwy gydol y cyfnod amenedigol. Nododd hefyd fod y deisebydd wedi croesawu'r cyfle i fod yn rhan o lunio gwaith yn y dyfodol a dylanwadu arno. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn ac am ymgyrchu i sicrhau newid ar ran eraill, a chaeodd y ddeiseb.
4.4 P-06-1256 Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa
Ailadroddodd y Pwyllgor y cynigion diffuant o gymorth a gafwyd gan bobl Cymru, sy’n sefyll mewn undod â phobl Wcráin, a’r gefnogaeth gref a fynegwyd gan Aelodau o’r Senedd, gan atgyfnerthu’r ffaith bod Cymru’n dymuno croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Nododd y Pwyllgor fod ymgynghoriad eisoes wedi'i gynnal ar y cynllun Cenedl Noddfa, a bod y cynllun hwnnw wedi ennill cefnogaeth eang. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
4.5 P-06-1257 Lleihau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog, yn gofyn am amserlen arfaethedig ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth newydd, ac yn gofyn hefyd a oes gan awdurdodau lleol bŵer i sefydlu eu cwmnïau cynnal a chadw eu hunain, neu a fyddai modd rhoi'r pŵer iddynt wneud hynny.
4.6 P-06-1259 Gwahardd bagiau baw cŵn nad ydynt yn fioddiraddiadwy
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, gan dderbyn safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn ymdrin â'r mater fel rhan o'i dull gweithredu ar gyfer lleihau sbwriel. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chaeodd y ddeiseb.
4.7 P-06-1260 Dylid dileu’r angen am basys Covid ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb, gan nad oes angen pasys COVID bellach ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl
Croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod yr holl argymhellion a wnaed yn ei adroddiad naill ai wedi’u derbyn neu wedi’u derbyn mewn egwyddor. Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd ar y canlyniad llwyddiannus a gafwyd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
5.2 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig
Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb. Yng ngoleuni’r ddadl a gafwyd eisoes yn y Cyfarfod Llawn, ynghyd â thrafodaethau’r Pwyllgor a’r dadleuon a gafwyd yn y llysoedd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd modd cymryd y ddeiseb ymhellach, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
5.3 P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, yn ogystal â hanes y ddeiseb. Yng ngoleuni’r ddadl a gafwyd eisoes yn y Cyfarfod Llawn, ynghyd â thrafodaethau’r Pwyllgor a’r dadleuon a gafwyd yn y llysoedd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd modd cymryd y ddeiseb ymhellach, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
5.4 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog, yn gofyn pryd y bydd penderfyniad yn debygol o gael ei wneud ar y mater hwn.
5.5 P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir
Cytunodd y Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion llawer o bobl â COVID hir, ei bod yn amlwg nad yw’r gwasanaethau hyn yn briodol i bawb, fel y mae’r deisebydd wedi’i nodi. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, gan awgrymu y gallai fod yn brofiad gwerthfawr i Lywodraeth Cymru pe bai’n cwrdd â’r deisebydd a chleifion eraill i wrando ar eu pryderon a’u hawgrymiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol creu cyswllt rhwng y deisebydd a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Grŵp Trawsbleidiol ar COVID Hir.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. Bydd yn cymryd tystiolaeth bellach gan awdurdodau lleol, Voices from Care Cymru a rhieni sydd wedi bod mewn gofal.